Dail-文本歌词

Dail-文本歌词

Melin Melyn
发行日期:

Dail o fy nghwmpas am bleser I glirio pen ac atgasedd Gei di’m moddion gwell na dail Am amrywiaeth sydd i ddail Rhai yn llyfn rhai yn bigog Fel rhyw lindys neu ddraenog Am gymeriadau heb eu hail O am hyfryd yw’r holl ddail Os yn crensian fel creision ŷd o dan fy nhraed Neu’n dawnsio’n yr awel ar eu canghennau O diolch am y dail Am swyddogaeth sydd gan ddail I amsugno’r holl lygredd Cyn rhyddhau i ni burdeb Ar ôl torheulo’n yr haul Trist yw’r adeg pan fo’r dail Yn crebachu yn brownio Yn gadael y brigau yn gwingo Yn ysu eto i gael eu haddurno gan ddail Pwy ddiawl ‘sa’n gwastraffu y fraint O gael cwmni fel Dail dail dail dail Dail dail dail dail Dail dail dail dail Dail